Amodau a Thelerau cystadleuaeth fisol Boots
1 Dim angen pryniad.
2 Un iPad Mini i'w ennill.
3 Bydd un enillydd bob mis ar draws y cwsmeriaid Masnach, fferyllfa a Optegwyr y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Bydd pob cystadleuaeth yn cwmpasu'r 16eg o bob mis hyd at ac yn cynnwys y 15fed niwrnod o bob mis.
4 Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap gan system gyfrifiadurol sydd wedi ei wirio'n annibynnol.
5 Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am lygru data na cheisiadau anghyflawn.
6 Nid yw cyflogeion Boots UK limited a Boots Opticians yn gymwys i ennill y wobr.
7 Efallai y gofynnir i enillwyr gymryd rhan mewn cyhoeddusrwydd wedi ennill, er nad yw hyn yn ofynnol.
8 Nid oes rhaid i chi fod yn ddeiliad Cerdyn Mantais i fod yn gymwys i ennill y wobr.
9 Bydd yr iPad Mini yn cael ei anfon ar yr enillwyr trwy'r post.
10 Ni ellir trosglwyddo’r gwobrau.
11 Nid oes dewis arian amgen ar gael.
12 Dim ond un cais arolwg a ganiateir i bob unigolyn, bob wythnos.
13 Dim ond os ydych chi'n 18 oed neu'n hŷn fyddwch chi'n gymwys i ennill y wobr.
14 Dim ond os ydych chi'n breswylydd cyfreithlon yn y Deyrnas Unedig neu Weriniaeth Iwerddon fyddwch chi'n gymwys i ennill y wobr.
15 Bydd gan yr enillydd 28 niwrnod i hawlio'r wobr o'r dyddiad pan fydd yn cael gwybod ei fod neu ei bod wedi ennill. Os na fydd yr enillydd wedi ymateb wedi'r cyfnod hwnnw, bydd enillydd arall yn cael ei ddethol.
16 Hyrwyddwr: Boots UK Limited, Thane Road, Nottingham, NG2 3AA.
17 Y cyfle i ennill gwobr yn cael ei weinyddu gan Prizeology Ltd.
18 Am resymau preifatrwydd data, dim ond cyfenwau a gwlad breswylio'r enillwyr fyddwn ni'n cyhoeddi. Bydd y manylion hyn ar gael ar gais trwy anfon amlen gyda stamp wedi ei chyfeirio at Prize Draw, Boots UK Limited, D90 WG15, Thane Road, Nottingham, NG90 1BS wedi i'r gystadleuaeth fisol orffen.